{SITE-NAME} Logo
The Police
Message Type Icon

Personal fraud and how to prevent it / Twyll personol a sut i’w atal


Good Morning. 

There have been recent reports of rogue traders in the Brynmill area. The information provided below are some good crime prevention tips. 

Personal fraud and how to prevent it

Fraud is when a person lies to you, or ‘scams’ you, to gain an advantage, such as taking your money or learning private information about you. This could be via email, text, phone or in person, either on the street or on your doorstep. 

Some adults may be especially vulnerable to fraud and financial abuse. If you’re concerned about someone you know, contact your local social services and ask for Adult Social Care.

With a little knowledge you can protect yourself from fraudsters too:

  • Learn the ten golden rules to prevent fraud (see below).
  • Find out about the most common types of fraud.
  • For more information and help and to report fraud, go to Action Fraud, the UK’s national fraud and cybercrime reporting centre.

    Ten golden rules to prevent fraud

    Remember these ten golden rules to help you prevent fraud and beat the scammers.

  • Be suspicious of all ‘too good to be true’ offers and deals. There are no guaranteed get-rich-quick schemes.
  • Don’t agree to offers or deals immediately. Insist on time to get independent or legal advice before making a decision.
  • Don’t hand over money or sign anything until you’ve checked someone’s credentials and their company’s.
  • Never send money to anyone you don’t know or trust, whether in the UK or abroad, or use methods of payment you’re not comfortable with.
  • Never give banking or personal details to anyone you don’t know or trust. This information is valuable so make sure you protect it.
  • Always log on to a website directly rather than clicking on links in an email.
  • Don’t just rely on glowing testimonials. Find solid, independent evidence of a company’s success.
  • Always get independent or legal advice if an offer involves money, time or commitment.
  • If you spot a scam or have been scammed, report it and get help.
  • Don’t be embarrassed about reporting a scam. Because the scammers are cunning and clever there’s no shame in being deceived. By reporting it, you'll make it more difficult for them to deceive others.
  • Get help or report a scam

    If you think you’ve uncovered a scam, been targeted by a scam or fallen victim to fraudsters, contact Action Fraud on 0300 123 2040 or at Action Fraud.

    Call us on 101 if you know the suspect or they’re still in the area.

    Reporting crime, including fraud, is important. If you don’t tell the authorities, how do they know it’s happened and how can they do anything about it?

    Remember that if you’re a victim of a scam or an attempted scam, however minor, there may be hundreds or thousands of others in a similar position. Your information may form part of one big jigsaw and be vital to completing the picture.

     

    Bore Da

    Cafwyd adroddiadau diweddar am fasnachwyr twyllodrus yn ardal Brynmill. Mae'r wybodaeth a ddarperir isod yn awgrymiadau atal trosedd da.

     

    Twyll personol a sut i’w atal

    Twyll yw pan fydd person yn dweud celwydd wrthoch chi, neu’n eich ‘sgamio’ chi, i achub mantais, fel cymryd eich arian neu ddysgu gwybodaeth breifat amdanoch chi. Gallai hyn fod drwy e-bost, neges destun, ffôn neu’n bersonol, naill ai ar y stryd neu ar stepen eich drws.

    Efallai y gall rhai oedolion fod yn arbennig o agored i dwyll a cham-drin ariannol. Os ydych chi'n poeni am rywun rydych yn ei adnabod, cysylltwch â’ch gwasanaethau cymdeithasol lleol a gofynnwch am Ofal Cymdeithasol i Oedolion.

    Gydag ychydig wybodaeth, gallwch ddiogelu eich hun rhag y twyllwyr hefyd:

  • Dysgwch y deg prif reol i atal twyll (gweler isod).
  • Dysgwch am y mathau mwyaf cyffredin o dwyll.
  • Am fwy o wybodaeth a help ac i riportio twyll, ewch i Action Fraud, canolfan riportio genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu.

    Y deg prif reol i atal twyll

    Cofiwch y deg prif reol i’ch helpu i atal twyll a maeddu’r sgamwyr.

  • Byddwch yn amheus o gynigion a bargeinion ‘sy’n rhy dda i fod yn wir’. Does dim sicrwydd bod yna gynlluniau sy’n mynd i’ch gwneud chi’n gyfoethog yn gyflym.
  • Peidiwch â chytuno i gynigion neu fargeinion ar unwaith. Mynnwch amser i ofyn am gyngor annibynnol neu gyfreithiol cyn gwneud penderfyniad.
  • Peidiwch â throsglwyddo arian na llofnodi unrhyw beth nes eich bod wedi gwirio manylion rhywun a'u cwmni.
  • Peidiwch byth ag anfon arian at unrhyw un nad ydych chi'n ei adnabod neu'n ymddiried ynddo, yn y DU neu dramor, na defnyddio dulliau talu nad ydych chi'n gyffyrddus â nhw.
  • Peidiwch byth â rhoi manylion bancio neu fanylion personol i unrhyw un nad ydych chi'n ei adnabod neu'n ymddiried ynddo. Mae’r wybodaeth hon yn werthfawr, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ei diogelu.
  • Dylech wastad fewngofnodi i wefan yn uniongyrchol yn hytrach na chlicio ar ddolenni mewn e-bost.
  • Peidiwch â dibynnu ar gymeradwyaeth sy’n canmol i’r cymylau. Chwiliwch am dystiolaeth gadarn, annibynnol o lwyddiant cwmni.
  • Sicrhewch gyngor annibynnol neu gyfreithiol bob amser os yw cynnig yn cynnwys arian, amser neu ymrwymiad.
  • Os ydych yn dod o hyd i sgam neu wedi cael eich twyllo, rhowch wybod am y peth a gofynnwch am help.
  • Peidiwch â theimlo cywilydd am riportio sgam. Oherwydd mae’r sgamwyr yn dwyllodrus ac yn glyfar, does dim cywilydd mewn cael eich twyllo. Trwy roi gwybod am y peth, byddwch chi'n ei gwneud hi'n anoddach iddyn nhw dwyllo pobl eraill.
  • Cael help neu riportio sgam

    Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi datgelu sgam, wedi cael eich targedu gan sgam neu wedi dioddef twyllwyr, cysylltwch ag Action Fraud ar 0300 123 2040 neu yn Action Fraud. Ffoniwch ni ar 101 os ydych chi'n adnabod y person dan amheuaeth neu os ydyn nhw yn yr ardal o hyd.

    Ffoniwch ni ar 101 os ydych chi'n adnabod y sawl sydd dan amheuaeth neu os ydyn nhw dal yn yr ardal.

    Mae riportio trosedd, gan gynnwys twyll, yn bwysig. Os na fyddwch yn dweud wrth yr awdurdodau, sut maen nhw'n gwybod fod y peth wedi digwydd a sut allan nhw wneud unrhyw beth amdano?

    Cofiwch, os ydych chi wedi dioddef sgam neu ymgais i sgamio, waeth pa mor fach, efallai y bydd cannoedd neu filoedd o bobl eraill mewn sefyllfa debyg. Efallai y bydd eich gwybodaeth yn rhan o un jig-so mawr ac yn hollbwysig i gwblhau'r darlun.


    Reply to this message

    Message Sent By
    James Rowland
    (Police, PCSO, Swansea NPT)

    Neighbourhood Alert Cyber Essentials